Y Gilfach Gymraeg

Fy ngobaith yw y bydd y wefan yma o ryw fath o ddefnydd wrth ddadlau achos yr iaith Gymraeg. Ond, mae angen help arna’i!

Os oes gennych chi syniadau ar gyfer cofnodion, neu welliannau i’r cofnodion sydd eisoes yn bodoli, rhowch wybod.

Rydyn ni Gymry Cymraeg wedi cyrraedd croesffordd yn hanes yr iaith. Fe allai yn hawdd iawn ddirywio yn gyflym o hyn ymlaen oherwydd yr holl bwysau allanol sydd arno (gan gynnwys ar y we). Ac eto oherwydd bod gymaint o ddisgyblion yn cael o leiaf rhan o’u haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg, mae cyfle unigryw i ni sicrhau dyfodol i’r iaith.

Mae cynnwys o safon yn hollbwysig os ydyn ni am argyhoeddi’r rheini sydd wedi dysgu’r iaith ei bod yn werth parhau i’w siarad. Fy nhrobwynt personol i oedd pan ddarllenais i lyfr Robin Llywelyn, Seren Wen ar Gefndir Gwyn, a sylweddoli bod gan y Gymraeg rhywbeth i’w gynnig nad oedd gan y Saesneg.

Beth fydd yn dal dychymyg y genhedlaeth nesaf? Ein cyfrifoldeb ni yw darparu’r cynnwys ar eu cyfer nhw. Nid am ein bod ni’n disgwyl unrhyw wobr faterol, ond am ein bod ni’n credu bod diwylliant Cymraeg bywiog yn wobr ynddo’i hunan.

Dywedodd Dewi Sant: “Gwnewch y pethau bychan.” Mae wedi mynd yn ystrydeb bellach, ond mae’r un mor wir heddiw ag ydoedd yn y 6ed ganrif. Os allen ni i gyfrannu rywbeth bach at ddyfodol yr iaith, fe wnawn ni sicrhau dyfodol iddo a’r diwylliant sydd ynghlwm ynddo.

Leave a comment